Lleoliad:
Ystafell
Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd
Llun, 13 Mawrth 2023
Amser:
14.03 -
16.08
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13249
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Alun Davies AS James Evans AS Heledd Fychan AS (yn lle Peredur Owen Griffiths AS) |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cafwyd ymddiheuriadau gan Peredur Owen Griffiths AS. Dirprwyodd Heledd Fychan AS ar ei ran.
2 Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru: Adroddiad Blynyddol 2021-22
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru.
3 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
3.1 SL(6)326 – Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
4 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7
4.1 SL(6)327 - Y Cwricwlwm i Gymru – Y Cod Datganiadau o’r Hyn sy'n Bwysig
Nododd y Pwyllgor i’r offeryn gael ei dynnu’n ôl cyn y cyfarfod.
5 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
5.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Ddiogelwch a Mudo
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a’r llythyr gan y Gweinidog.
5.2 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Etholiadau a Chofrestru
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a’r llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
5.3 Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio) 2023
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog.
6 Papurau i'w nodi
6.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweithnidog at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
6.2 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at Lywodraeth y DU: Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Busnes a Masnach.
6.3 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Llywydd: Y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Llywydd.
6.4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Bil Amaethyddiaeth (Cymru)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
6.5 Gohebiaeth gan y Rhwydwaith Rhywedd: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Rhwydwaith Rhywedd at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.
6.6 SL(6)325 - Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Gweinidog Newid Hinsawdd. Cytunodd y Pywllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am ragor o wybodaeth.
6.7 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyllid.
6.8 Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: profiadau menywod o'r system cyfiawnder troseddol
Nododd y Pwyllgor yr adroddiad a’r llythyr gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.
6.9 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a'r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol: Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a'r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol.
6.10Gohebiaeth â’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
6.11Gohebiaeth gan Peter Fox AS: Y Bil Bwyd (Cymru)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Peter Fox AS.
6.12Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Ymateb i Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
6.13Gohebiaeth gan Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ’r Arglwyddi: Cydsyniad Deddfwriaethol
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ’r Arglwyddi.
6.14Gohebiaeth gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
8 Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru: Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru.
9 Cytundebau rhyngwladol
Nododd y Pwyllgor y cytundebau rhyngwladol a ganlyn:
y DU-Japan: Hwyluso Cilyddol o ran Mynediad a Chydweithredu rhwng Lluoedd Hunan-Amddiffyn Japan a Lluoedd Arfog y DU
10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Rhif 4 ar y Bil. Cytunodd y Pwyllgor na fyddai'n cyflwyno adroddiad ar Femorandwm Rhif 4 ac y byddai'n ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes.